Croeso i wefan Ysgol Gymuned Pentraeth

 

HOLIADUR Dychwelyd i'r Ysgol

Llythyr Ail Agor Ysgolion


big image

image

 

Mae'n bleser cyflwyno ein gwefan i chi. Mae gwefan yr ysgol yn gyfrwng cyfathrebu, sy'n datblygu ac yn esblygu'n gyson, ac rydym yn eich annog i ymweld â'r wefan yn rheolaidd er mwyn cael cipolwg ar fwrlwm bywyd Ysgol Pentraeth.

Adeiladwyd yr ysgol 1864. Mae 105 o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys y dosbarth meithrin.

Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer Blwyddyn 1 i 6 yn ogystal â Dosbarth Meithrin a Derbyn.

Ein nod yw creu ysgol gyfeillgar a hapus sy'n rhoi pob anogaeth i'ch plentyn ddysgu a datblygu hyd eithaf ei allu yn ystod ei amser gyda ni. Ceisiwn sicrhau bod yr ysgol yn le diogel a braf ble caiff eich plentyn ei werthfawrogi a'i drin fel unigolyn. Ceisiwn annog y plant i fod yn aelodau cyfrifol o'r ysgol a'u cymdeithas leol ac i dyfu'n bersonau iach sy'n ystyriol o eraill ac o'u hamgylchedd. Amcanwn i roi'r addysg orau bosib i'n disgyblion.

Y mae perthynas agos rhwng y cartref a'r ysgol yn hynod bwysig, a gwyddom y cawn bob cydweithrediad gennych yn hynny o beth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach ynglyn ag unrhyw fater, y mae croeso i chi gysylltu gyda'r ysgol.

Lynne Jones (Pennaeth)