Dinasyddiaeth Byd Eang a Masnach Deg
Dinasyddiaeth Fyd Eang a Masnach Deg
Cydlynydd Ysgol Rhyngwladol - Mrs Eleri Rees
Beth all fod yn bwysicach na pharatoi ein plant ar gyfer y byd mawr. Mae`r ysgol yn hyrwyddo dinasyddiaeth fyd eang drwy rwydweithiau o gysylltiadau.Rydym wedi creu cyswllt agos â Ysgol yn Ffrainc. Mae`r ddau gam cyntaf tuag at fod yn ysgol Ryngwladaol wedi eu cwblhau a`u cydnabod gan y Cyngor Prydeinig. O ganlyniad ,mae gan y disgyblion ddealltwriaeth dda o ddiwylliannau gwahanol. |
Diwrnod Rhyngwladol
Yn flynyddol byddwn yn dathlu traddodiadau gwledydd eraill yn ystod tymor y Pasg .Y flwyddyn yma dewiswyd gwlad India, Sbaen Ffrainc a chyfandir Affrica..Cawsom gyfle i ddangos arteffactau ,bwyd , dillad a dawnsfeydd penodol.Bu`r plant yn blasu bwyd affricanaidd wedi ei goginio gan Anti Joanne ( cogyddes yr ysgol).Gwrandawodd pawb yn astud ar hanesion a phrofiadau Miss Janice Jones , cymhorthydd yn y Cyfnod Sylfaen, sydd wedi ymweld â chyfandir Affrica..
Cinio affricanaidd blasus gan Anti Joanne. |
Miss Janice Jones yn rhoi cyflwyniad ar Affrica i blwyddyn 5 a 6. |
Cystadleuaeth creu patrymau Mhendi (Indiai). |
Creu dawns Indiaidd yn mlwyddydn 3 a 4. |
Blwyddydn 5 a 6 yn coginio bisgedi Affricanaidd |
Disgyblion blwyddyn 3 a 4 yn coginio pethau da Indiaidd (Peli Cneuen Goco) |
Masnach Deg
Mae 2 biliwn o bobl yn y byd yn byw ar lai na £1 y dydd. Felly mae gallu i dderbyn pris teg am eu cynnyrch yn holl bwysig i'r masnachwyr yn y gwledydd hyn ac felly yn helpu i leihau'r effeithiau tlodi yn y byd sy'n datblygu. Mae`r ysgol yn addysgu disgyblion am bwysigrwydd masnach deg mewn gwledydd tlawd drwy waith thema a gwasanaeth penodol. Bu Bl 2 yn defnyddio bananas a orenau masnach deg i greu salad ffrwythau ac i annog pawb i fwyta`n iach drwy eu thema Bwyta`n Iach. Mae Blwyddyn 5 a 6 yn edrych ar daith bananas drwy eu thema Teithio a.y.b |
Patagonia
Dathlwyd 150 mlwyddiant Gwladfa Gymreig Patagonia.Gwahoddwy Mr Rhys Llewelyn i`r ysgol i siarad am ddiwylliant a thraddodiadau Wladfa gan iddo fod yno y dysgu am gyfnod. Bu iddynt greu cymdeithas Gymreig ffyniannus, gyda'r iaith Gymraeg yn cael lle canolog; mewn cydweithrediad â Llywodraeth yr Ariannin, ac mewn heddwch gyda'r brodorion a drigai yno - yr unig achos o wladychu heddychlon yn hanes cyfandir America. |
Dathlu Dydd Gwyl Dewi Sant a Diwrnod y Llyfr
Yn flynyddol byddwn yn dathlu dydd ein nawddsant ar Fawrth 1af ynghyd â dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr drwy gynnal gweithgareddau amrywiol sy`n dathlu tarddodiadau Cymreig a Chymraeg a rhoi sylw i straeon o wledydd a diwylliannau eraill. |
Cysylltiad â Tsieina
Disgyblion y dosbaryh Meithrin/ Derbyn yn dathlu Blwyddyn Newydd y Tseineaid. Yn flynyddol rydym yn dathlu blwyddyn newydd yTsieiniaid yn y Cyfnod Sylfaen. Mae`r disgyblion yn cael cyfle i flasu bwyd yn y caffi a gwneud gwaith celf. |