Global Citizenship and Fair Trade

 

Dinasyddiaeth Fyd Eang a Masnach Deg (Welsh only available...)

Cydlynydd Ysgol Rhyngwladol - Mrs Eleri Rees

Beth all fod yn bwysicach na pharatoi ein plant ar gyfer y byd mawr. Mae`r ysgol yn hyrwyddo dinasyddiaeth fyd eang drwy rwydweithiau o gysylltiadau.Rydym wedi creu cyswllt agos â Ysgol yn Ffrainc. Mae`r ddau gam cyntaf tuag at fod yn ysgol Ryngwladaol wedi eu cwblhau a`u cydnabod gan y Cyngor Prydeinig.O ganlyniad ,mae gan y disgyblion ddealltwriaeth dda o ddiwylliannau gwahanol.
Brwdfrydedd a mwynhad y disgyblion sy’n gyrru ein cwricwlwm Addysg Byd Eang wrth iddynt fwrw ati i :
• Gyfathrebu gyda’u pen-pals yn Ffrainc
• Ddathlu gwyliau a diwylliannau eraill.
• Ddysgu am agweddau diddorol o fyw a bwyta mewn gwledydd eraill.
Datblygwyd prosiectau thematig a chyfredol llynnedd yn ogystal e.e. Y Gemau Olympadd, Pencampwriaeth Rygbi’r Byd a Phencampwriaeth Pêl-droed Ewrop.


Diwrnod Rhyngwladol (Welsh only available...)

Yn flynyddol byddwn yn dathlu traddodiadau gwledydd eraill yn ystod tymor y Pasg .Y flwyddyn yma dewiswyd gwlad India, Sbaen Ffrainc a chyfandir Affrica..Cawsom gyfle i ddangos arteffactau ,bwyd , dillad a dawnsfeydd penodol.Bu`r plant yn blasu bwyd affricanaidd wedi ei goginio gan Anti Joanne ( cogyddes yr ysgol).Gwrandawodd pawb yn astud ar hanesion a phrofiadau Miss Janice Jones , cymhorthydd yn y Cyfnod Sylfaen, sydd wedi ymweld â chyfandir Affrica..

Cinio affricanaidd blasus gan Anti Joanne.

Miss Janice Jones yn rhoi cyflwyniad ar Affrica i blwyddyn 5 a 6.

Cystadleuaeth creu patrymau Mhendi (Indiai).

Creu dawns Indiaidd yn mlwyddydn 3 a 4.

Blwyddydn 5 a 6 yn coginio bisgedi Affricanaidd

Disgyblion blwyddyn 3 a 4 yn coginio pethau da Indiaidd (Peli Cneuen Goco)


Masnach Deg (Welsh only available...)

image

Mae 2 biliwn o bobl yn y byd yn byw ar lai na £1 y dydd. Felly mae gallu i dderbyn pris teg am eu cynnyrch yn holl bwysig i'r masnachwyr yn y gwledydd hyn ac felly yn helpu i leihau'r effeithiau tlodi yn y byd sy'n datblygu.

Mae’r ysgol yn addysgu disgyblion am bwysigrwydd masnach deg mewn gwledydd tlawd drwy waith thema a gwasanaeth penodol.

Bu Bl 2 yn defnyddio bananas a orenau masnach deg i greu salad ffrwythau ac i annog pawb i fwyta`n iach drwy eu thema Bwyta’n Iach. Mae Blwyddyn 5 a 6 yn edrych ar daith bananas drwy eu thema Teithio a.y.b
Mae’r ysgol hefyd yn gwerthu nwyddau masnach deg yn ffeiriau’r ysgol.

 


Patagonia (Welsh only available...)

image

Dathlwyd 150 mlwyddiant Gwladfa Gymreig Patagonia.Gwahoddwy Mr Rhys Llewelyn i’r ysgol i siarad am ddiwylliant a thraddodiadau Wladfa gan iddo fod yno y dysgu am gyfnod.
Hanes
Sefydlwyd Y Wladfa ym 1865, pan deithiodd dros 150 o bobl o wahanol rannau o Gymru, yn y llong hwylio Mimosa i ymgartrefu yn Nyffryn Camwy, yn Ne'r Ariannin.Dros yr hanner canrif canlynol, ymfudodd cannoedd o Gymry yno, gan sefydlu trefi megis Porth Madryn yn y Bae Newydd; Rawson, Gaiman, Trelew a Dolavon yn Nyffryn Camwy; a Threvelin yng Nghwm Hyfryd.

Bu iddynt greu cymdeithas Gymreig ffyniannus, gyda'r iaith Gymraeg yn cael lle canolog; mewn cydweithrediad â Llywodraeth yr Ariannin, ac mewn heddwch gyda'r brodorion a drigai yno - yr unig achos o wladychu heddychlon yn hanes cyfandir America.
Heddiw, mae ysgol ddwyieithog (Cymraeg-Sbaeneg) wedi ei sefydlu yn Nhrelew ac mae ysgolion meithrin Cymraeg hefyd yn y Gaiman ac yn Esquel; ac mae Eisteddfod y Wladfa, a gynhelir pob mis Hydref, ac Eisteddfod yr Ifanc pob mis Medi, yn mynd o nerth i nerth. Cynhelir hefyd nifer o eisteddfodau llai yn Nyffryn Camwy, Porth Madryn

 


Dathlu Dydd Gwyl Dewi Sant a Diwrnod y Llyfr (Welsh only available...)

imageYn flynyddol byddwn yn dathlu dydd ein nawddsant ar Fawrth 1af ynghyd â dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr drwy gynnal gweithgareddau amrywiol sy’n dathlu tarddodiadau Cymreig a Chymraeg a rhoi sylw i straeon o wledydd a diwylliannau eraill.

 


Cysylltiad â Tsieina (Welsh only available...)

imageDisgyblion y dosbaryh Meithrin/ Derbyn yn dathlu Blwyddyn Newydd y Tseineaid.
Yn flynyddol rydym yn dathlu blwyddyn newydd yTsieiniaid yn y Cyfnod Sylfaen.Mae’r disgyblion yn cael cyfle i flasu bwyd yn y caffi a gwneud gwaith celf.