Absenoldeb a Gwyliau
Hafan > Rhieni > Absenoldeb a Gwyliau
RHOI WYBOD AM ABSENOLDEB
Ffoniwch yr ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb i roi gwybod pam mae eich plentyn yn absennol, a phryd rydych chi’n disgwyl iddynt ddychwelyd.
Os na allwch gysylltu dros y ffôn, dylech:
- Anfon neges i roi gwybod i’r ysgol trwy’r ap porth (Schoolcomms) ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb i egluro’r rheswm dros yr absenoldeb a phryd rydych chi’n disgwyl iddynt ddychwelyd, NEU
- Anfon neges at athro neu athrawes dosbarth eich plentyn ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb i egluro’r rheswm dros yr absenoldeb a phryd rydych chi’n disgwyl iddynt ddychwelyd.
Os yw eich plentyn i ffwrdd am resymau eraill megis apwyntiad meddyg neu ddeintydd, rhowch wybod i’r ysgol ymlaen llaw a dangoswch gopi o’r neges apwyntiad neu’r cerdyn.
Gall cadw rhif ffôn yr ysgol ar eich ffôn arbed amser i chi.
Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn ond yn colli’r ysgol am resymau na ellir eu hosgoi neu sydd wedi’u cytuno a’u deall (wedi’u hawdurdodi) gan yr ysgol.
Archebu Gwyliau yn ystod Amser Ysgol
Dylid osgoi trefnu gwyliau teuluol yn ystod amser ysgol.
Os nad yw hyn yn bosibl i’w osgoi, rhaid i chi siarad â’r ysgol a chael ateb cyn archebu gwyliau. Rhaid rhoi o leiaf 4 wythnos o rybudd am hyn.
Mae ffurflen hefyd ar gael i rieni wneud cais am absenoldebau awdurdodedig. Gofynnwch i aelod o staff am ffurflen os ydych ei hangen, neu mae croeso i chi ei hargraffu eich hun a’i dychwelyd atom (cliciwch ar y ddolen isod).